Neges o obaith y nadolig yma
Mae 2024 wedi bod yn flwyddyn o newid, gyda dros biliwn o bobl yn mynd i’r gorsafoedd pleidleisio mewn hanner cant o wledydd. Un o’r pethau allweddol ar draws pob un o’r etholiadau hyn fu ymddiriedaeth. Roedd yn sicr yn wir yn ein hetholiad cyffredinol wrth i ni chwilio am rywun y gallem ymddiried ynddynt i ddweud y gwir, gweithredu yn gywir a gwneud gwaith yn gydwybodol. Nid oes llawer o ymddiriedaeth i’w weld ym mywyd cyhoeddus Cymru y dyddiau hyn wrth i anghydraddoldeb dyfu ac i addewidion gael eu torri. Mae’n anodd peidio â theimlo’n siomedig ac yn sinigaidd. A oes unrhyw un y gallwn ymddiried ynddo, ac a oes gobaith nid yn unig i gymdeithas ond i’n bywydau a’n heneidiau ein hunain?
Y newyddion da yw bod gobaith. Rydym wedi gweld nad oes gwir obaith i’w gael mewn newid amgylchiadau neu arweinwyr, ac ni cheir gobaith mewn ceisio gwella ein hunain ychwaith. Dim ond yn Nuw y gellir dod o hyd i obaith gwirioneddol. Mae’r gobaith hwn yn disgleirio’n glir yn stori’r Nadolig. Mae’n dangos y medrwn ymddiried yn Nuw bob amser a’i fod yn ddibynadwy.
Mae gobaith oherwydd bod y Nadolig yn dangos bod Duw yn real
Mae bywyd Iesu yn dangos bod Duw yn real. Ysgrifennodd llygad-dystion am ei fywyd, ei wyrthiau a’i ymwneud â phobl go iawn. Gallwch ddarllen amdanyn nhw yn y Beibl. Ledled y byd, mae miliynau o bobl yn credu mai Iesu yw Mab Duw ac yn profi perthynas real â Duw o ddydd i ddydd. A wnewch chi ofyn iddo ddangos ei hun i chi?
Mae gobaith oherwydd bod y Nadolig yn dangos bod Duw yn ein deall
Rydyn ni i gyd wedi profi poen a siom y byd hwn ond nid arhosodd Duw i ffwrdd o’r dioddef. Daeth Iesu yn un ohonom ni, yn faban, wedi’i eni ym Methlehem. Tyfodd a wynebodd fywyd o dlodi a chasineb. Er ei fod yn dda ym mhob ffordd, cafodd ei adael gan ei ffrindiau a’i lofruddio gan ei elynion. Mae Duw yn deall sut beth yw byw yn y byd hwn ac mae’n gallu cydymdeimlo. A wnewch chi droi ato heddiw a rhannu eich brwydrau ag ef?
Mae gobaith oherwydd bod y Nadolig yn dangos bod Duw yn ein caru
Nid oedd yn rhaid i Dduw anfon ei fab Iesu i’r byd hwn i ddioddef; gwnaeth hynny oherwydd ei fod yn ein caru ni. Roedd yn gwybod mai dyma’r unig ffordd i’n hachub ac mae hyn yn dangos cymaint mae Duw yn caru pob un ohonom. A wnewch chi ddysgu mwy am gariad Duw tuag atoch chi?
Mae gobaith oherwydd bod y Nadolig yn dangos bod Duw eisiau ein hachub
Gadewch i ni fod yn onest; rydyn ni i gyd ymhell oddi wrth Dduw sy’n sanctaidd ac yn berffaith. Rydyn ni i gyd wedi cael meddyliau ac wedi gwneud pethau anghywir. Efallai bod eich cydwybod yn dweud hynny wrthych heddiw. Daeth Iesu i’r byd hwn i gymryd y gosb yr ydym yn ei haeddu trwy farw ar y groes. Pan ddaeth yn ôl yn fyw dridiau yn ddiweddarach, fe brofodd ei fod wedi concro marwolaeth. Mae’n addo ein hachub os gofynnwn iddo am faddeuant. Dyma pam y dywedodd yr angylion wrth y bugeiliaid fod genedigaeth Iesu yn newyddion mor dda. Mae maddeuant ar gael i bawb – does dim ots pwy ydyn ni na beth rydyn ni wedi’i wneud. A wnewch chi siarad yn onest â Duw heddiw a gofyn am ei faddeuant?
Mae gobaith oherwydd bod y Nadolig yn dangos bod Duw yn newid bywydau
Roedd gan y doethion a ddaeth i weld y baban Iesu ddigonedd o gyfoeth a statws, ac eto roedden nhw’n chwilio am fwy. Trawsnewidiwyd eu bywydau wrth iddynt benlinio mewn addoliad gyda’u rhoddion. Pan fydd pobl yn ymddiried yn Iesu ni chant addewid o fywyd hawdd. Ond mae popeth yn newid ac fe gânt lawenydd a bywyd newydd. Maent yn adnabod Duw, a gallant wynebu pob ansicrwydd yn y byd hwn gan wybod na fydd Duw yn eu gadael. Bydd Duw yn siarad gyda nhw ac yn dod â nhw adref yn ddiogel i’r nefoedd.
‘Dewch ata i, bawb sy’n cael eich llethu gan feichiau trwm, a rhof i orffwys i chi. Dewch gyda mi o dan fy iau, er mwyn i chi ddysgu gen i. Dw i’n addfwyn ac yn ostyngedig, a chewch chi orffwys.’ Geiriau Iesu a geir yn y Beibl (Mathew 11)
Comments