Wedi ei geni a’i magu yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, a’r hynaf o dri, symudodd Ann Davies i brysurdeb Llundain. Roedd hi’n briod, yn gweithio yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Whitehall, ac yn edrych ymlaen at fagu teulu gyda’i gŵr, ond yn sydyn, fe newidiodd y cyfan…
Roedd hi’n wythnos y Nadolig yn 1968, ac roeddwn i yn yr ysbyty gyda’r diciâu (TB); roedd fy ngwr yn eistedd wrth ochr fy ngwely ond roeddwn yn synhwyro fod rhywbeth yn ei boeni. Roeddwn am ei gysuro a phwysais arno i rannu. Dyna pryd y dywedodd wrthyf nad oedd yn fy ngharu mwyach a’i fod am adael. Chwalodd fy mywyd, ac fe wnes i hyd yn oed geisio lladd fy hun, ond rydw i mor ddiolchgar bod Duw wedi fy nghadw. Dros y blynyddoedd wedyn datblygodd perthynas arall. Fe wnaethon ni ystyried priodas ond roeddwn i’n ansicr ac yn ofnus iawn. Roeddwn yn dal i ddioddef poen y blynyddoedd blaenorol a doeddwn i ddim eisiau methu mewn priodas arall, felly penderfynais rhedeg i ffwrdd mor bell â phosib.
Mi wnes i ysgrifennu at sawl llysgenhadaeth am visa a gwaith, ac ym mis Mai 1976, roeddwn yn hwylio i Dde Affrica i weithio yn Johannesburg. Gwnes i lawer o ffrindiau yno, ac roedd un ohonyn nhw’n ferch Affricaans a oedd yn Gristion. Roedd hi’n siarad am Iesu a’i gariad ac yn fy ngwahodd i’r eglwys yn aml. Roeddwn i’n ystyried fy hun yn Gristion, a doeddwn i ddim yn hoffi’r ffordd roedd hi’n mynnu bod angen i chi gael perthynas â Iesu i fynd i’r nefoedd. Roeddwn i’n ofni uffern, ond yn gobeithio mynd i’r nefoedd oherwydd ‘mod i wedi bod yn mynd i gapel pan yn ifanc ac roeddwn yn gwneud gweithredoedd da. Roeddwn i eisiau byw fy mywyd, anghofio’r poen, gan fwynhau’r pethau y gallai’r byd hwn eu rhoi i mi. Fodd bynnag, dyfalbarhaodd, ac yn y diwedd derbyniais ei gwahoddiad i wasanaeth nos Sul, gan fwriadu mai hwn fyddai’r tro cyntaf a’r tro olaf imi fynychu ei heglwys!
Digwyddodd rhywbeth i mi yn y cyfarfod hwnnw; Mi wnes i ddechrau teimlo yn anghyfforddus ac yn ddig iawn wrth i’r Beibl gael ei ddarllen a’i egluro. Sylweddolais fod Duw yn gwybod popeth roeddwn i wedi’i wneud — ie, roeddwn i wedi dioddef cyfnodau anodd, ond roedd fy mywyd hefyd yn llawn meddyliau a gweithredoedd drwg a hunanol. Dros yr wythnosau nesaf, roeddwn i’n brwydro yn erbyn fy nghydwybod euog. Ar adegau, roeddwn i’n meddwl fy mod wedi ymuno gyda ffanatics crefyddol, ond mewn gwirionedd, roeddwn i’n gwybod bod Duw wedi siarad â mi ac nad oedd yn hapus gyda fy mywyd.
Yn y diwedd, un noson, fe wnes i feddwi ac roeddwn i mewn cyflwr gwael. Roeddwn i’n brifo ac yn ddig, ac rwy’n cofio dal yn dynn wrth y basn ymolchi yn fy ystafell wely a galw ar Dduw, ‘Rwyt ti’n dweud dy fod yn Dduw cariad, os yw hynny yn wir plîs achub fi’. Dyna pryd y torrodd Duw i mewn i’m bywyd. Er fy mod wedi pechu yn ei erbyn gwelais ei fod yn dal i’m caru, a bod Iesu wedi marw ac atgyfodi er mwyn fy achub. Dyma gras Duw yn llifo i mewn i’m bywyd, ac roeddwn wedi fy newid yn llwyr. Sylweddolais fy mod wedi bod yn byw fy mywyd er mwyn cael pethau’r byd hwn oedd ddim yn bodloni, ond nawr roedd gennyf Dduw y Tad, Iesu y Mab a’r Ysbryd Glân. Teimlais lawenydd dwfn a derbyniad nad oeddwn erioed wedi ei deimlo o’r blaen.
Ar ôl wyth mis yn Ne Affrica, symudais i Israel a byw am gyfnod yn Nasareth, lle roedd Iesu wedi byw! Fodd bynnag, cefais y newyddion bod Bet, fy chwaer annwyl, yn sâl iawn, felly dychwelais i Gaerfyrddin i fod gyda hi a’i phlant.
Yn ôl yng Nghymru, tyfodd fy mherthynas â Duw, a thrwy weddïo, cefais fy arwain i geisio am swydd yn y Bala. Er mai dim ond chwe mis y parhaodd y swydd, darparodd Duw gartref a gwaith newydd yn y dref. Yn fuan darparodd hefyd eglwys i addoli ynddi a lle i werthu llenyddiaeth Gristnogol. A dyma fi, dal yn y Bala 43 mlynedd yn ddiweddarach! Rydw i wedi cael swyddi amrywiol, ond yr hyn sy’n gwneud fi’n hapus yw’r siop lyfrau Gristnogol leol lle dwi’n sgwrsio â phobl ac yn dweud wrthyn nhw am Iesu a’i gariad tuag atom ni. Er bod Duw yn casáu pechod ac y bydd yn cosbi pob drwg, nid yw am i unrhyw un fynd ar goll. Mae’n cynnig bywyd newydd a maddeuant i bawb sy’n ymddiried yn Iesu.
Nid yw bywyd bob amser wedi bod yn hawdd. Mae gen i greithiau dwfn o blentyndod a fy ysgariad, ond wrth edrych yn ôl ni allaf byth amau trugaredd Duw. Mae ei gariad yn real ac mae wedi bod yn gydymaith cyson i mi a bydd yn fy nghadw tan fy niwrnod olaf pryd y byddai gydag ef am byth.
Comments